







Rhwng 19 - 23 Gorffennaf 2021, gall telynorion a selogion telyn o bob cwr o'r byd fwynhau 5 diwrnod o berfformiadau Ar-lein a ddarlledir yn fyw o Gaerdydd, prif ddinas Cymru. Ymunwch â ni am wythnos ddwys ond llawn hwyl o ddatganiadau, cyngherddau, darlithoedd, dosbarthiadau meistr a gweithdai, i gyd yn dathlu amlochredd a dyfeisgarwch y delyn.
Mae'r cynnwys ar-lein hwn ar gael yn unig i gynrychiolwyr 14eg Cyngres Delyn y Byd, sydd bellach i fod i gael ei gynnal yng Nghaerdydd, ym mis Gorffennaf 2022.

DEWCH YN NODDWR
Manteisiwch ar ein pecynnau nawdd a'r cyfle i gysylltu â channoedd o unigolion brwdfrydig dros y ddwy flynedd nesaf.
BYDDWCH YN ARDDANGOSWR
Gwerthwch yn uniongyrchol i'r cynrychiolwyr yn ystod #CTB2021 a gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich gweld yn ystod yr wythnos yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
E-bostiwch ni heddiw i gael mwy o wybodaeth yn info@whc2022.wales a manteisio i'r eithaf ar y cynnig rhad ac am ddim hwn.