
Cyflwyniad gan Catrin Finch
Croeso i Gyngres Telynau'r Byd 2020, sy'n cael ei chynnal yn ninas hyfryd Caerdydd.

Cymru yw "Gwlad y Delyn", ac mae Caerdydd yn brifddinas gosmopolitan, sy'n ffynnu. Ers i mi symud yma i fyw, mae'r ddinas wedi cael ei hadfywio'n llwyr, ac wedi dod yn gyrchfan rheolaidd i ddigwyddiadau diwylliannol, gwleidyddol a chwaraeon rhyngwladol. Mae cysylltiad agos rhwng Caerdydd a Gwyliau Telynau, a hithau wedi cynnal Gŵyl Telynau'r Byd ddwywaith yn ystod y 1990au, 7fed Symposiwm Telynau Ewrop yn 2007 a Gwobrau Lyon a Healey yn 2013.
Bydd Caerdydd yn fwrlwm o delynau a thelynorion yn ystod wythnos y Gyngres. Mae gennym leoliadau hyfryd, yn rhai hen a newydd, lle byddwn yn cynnal cyngherddau, arddangosfeydd a dosbarthiadau meistr o'r radd flaenaf, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant ac adeilad newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle y cynhelir y Gyngres.
Bydd yna arddangosfeydd arbennig mewn rhai o'n hamgueddfeydd hardd, cyfle i glywed telynau a cherddorion gwahanol o bob cwr o'r byd, ac, os ydych yn delynor, cyfle i ymuno ac i gymryd rhan yn y dathliad cofiadwy hwn. Mae'n fraint fawr i mi gael arwain tîm artistig o delynorion a chydweithwyr gwych, sy'n enwog yn rhyngwladol; gyda'n gilydd, byddwn yn creu Cyngres i'w chofio.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Gaerdydd ym mis Gorffennaf 2020!
